Edmwnd Tudur | |
---|---|
Ganwyd | c. 1430 Much Hadham Hall |
Bu farw | 3 Tachwedd 1456, 1 Tachwedd 1456 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pendefig |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Owain Tudur |
Mam | Catrin o Valois |
Priod | Margaret Beaufort |
Plant | Harri VII |
Llinach | House of Valois, Tuduriaid |
Roedd Edmwnd Tudur (Edmund Tudor) (11 Mehefin 1431 – 3 Tachwedd 1456) yn fab i Catrin o Valois ac naillai Owain Tudur neu Edmund Beaufort. Roedd yn dad i Harri VII, brenin Lloegr.
Gwnaeth ei hanner brawd, Harri VI, brenin Lloegr, ef yn Iarll Richmond ar 23 Tachwedd 1452 a'i frawd Siasbar yn Iarll Penfro. Yn 1455 priododd Margaret Beaufort pan oedd hi'n ddeuddeg oed, a ganed un mab iddi: Harri (Harri VII yn ddiweddarach), dri mis wedi marwolaeth Edmwnd.
Ganwyd Edmwnd Tudur ym mhlasty Much Hadham, Swydd Hertford. Yn 1436, ymneilltuodd ei fam i Abaty Bermondsey ble y bu farw yn 1437. Magwyd ef a'i frawd Jasper, felly, gan Katherine de la Pole, Prif Leian Barking, a buont gyda hi tan 1442 pan danfonwyd hwy i lys Harri VI, brenin Lloegr i'w haddysgu.[1] Cafodd Edmwnd aros yn y Llys[1]. Ar 30 Ionawr 1452 cafodd ei wysio i'r Llywodraeth fel Iarll Richmond ac yna fel Uwch Iarll ar 6 Mawrth. Yr un pryd gwnaed Jasper yn Iarll Penfro. Cyhoeddodd y Llywodaeth ef yn fab cyfreithlon yn 1453 a rhoddwyd iddo gryn gyfoeth gan y brenin.